Termau'r Wefan
Wrth ddefnyddio TelynauTeifi.co.uk rydych yn cytuno i fod yn gyfreithiol-rwym i'r telerau hyn, a ddaw i rym unwaith y byddwch yn defnyddio TelynauTeifi.co.uk am y tro cyntaf. Os nad ydych yn cytuno bod y telerau hyn yn eich rhwymo'n gyfreithiol peidiwch â chyrchu a/neu ddefnyddio TelynauTeifi.co.uk, os gwelwch yn dda.
Gallai TelynauTeifi.co.uk newid y telerau hyn ar unrhyw adeg drwy gyhoeddi rhybudd ar-lein am y newidiadau. Dylech fwrw golwg dros y telerau hyn yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau a wnaethpwyd. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio TelynauTeifi.co.uk ar ôl inni gyhoeddi rhybudd am newidiadau, byddwch yn cytuno i fod yn gyfreithiol-rwym i'r telerau hyn fel y'u diweddarwyd a/neu ddiwygiwyd.
Defnyddio TelynauTeifi.co.uk
Ni allwch gopïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, llwytho i lawr, postio, trosglwyddo na dosbarthu i'r cyhoedd, na defnyddio cynnwys TelynauTeifi.co.uk mewn unrhyw ffordd ac eithrio i ddibenion eich defnydd personol, anfasnachol chi. Rydych hefyd yn cytuno i beidio ag addasu, newid, na chreu unrhyw waith sy'n deillio o gynnwys TelynauTeifi.co.uk ac eithrio i ddibenion eich defnydd personol, anfasnachol chi. Bydd rhaid cael caniatâd ysgrifenedig Telynau Teifi Cyf. cyn defnyddio cynnwys Telynau Teifi.co.uk.
Rydych yn cytuno i ddefnyddio TelynauTeifi.co.uk i ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd na fydd yn tramgwyddo hawliau, na chyfyngu neu atal neb arall rhag defnyddio neu fwynhau TelynauTeifi.co.uk. Mae ymddygiad a waherddir yn cynnwys aflonyddu ar unrhyw berson, neu achosi anhawster neu anghyfleustra iddynt, anfon deunydd anllad neu sarhaus, neu darfu ar lif deialog arferol TelynauTeifi.co.uk.
Ymwadiadau a Chyfyngu Atebolrwydd
Darperir cynnwys TelynauTeifi.co.uk, yn cynnwys gwybodaeth, enwau, delweddau, lluniau, arwyddluniau ac eiconau sy'n ymwneud â, neu sydd yngyn â Telynau Teifi Cyf., ar sail "FEL Y MAE" ac "AR GAEL", heb ddarparu gwarant o unrhyw fath (boed yn ddatganedig neu ymhlyg) i'r eithaf a ganiateir trwy gyfraith, yn cynnwys gwarantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben arbennig, nad yw'n torri rhywbeth megis cyfraith neu hawlfraint, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb.
Ni fydd Telynau Teifi Cyf. yn atebol, dan unrhyw amgylchiadau, am unrhyw un o'r mathau canlynol o golled neu ddifrod (p'un a oeddent yn rhagweladwy neu wedi'u rhagweld, yn hysbys ai peidio): (a) colli data; (b) colli refeniw neu elw a ragwelir; (c) colli busnes; (ch) colli cyfle; (d) colli ewyllys da neu enw da; (dd) colledion gan drydydd partïon; neu (e) unrhyw iawndal anuniongyrchol, ôl-ddilynol, arbennig neu esiamplaidd sy'n tarddu o ddefnyddio TelynauTeifi.co.uk waeth beth fo natur y weithred.
Ni yw TelynauTeifi.co.uk yn gwarantu bod y swyddogaethau a geir yn y deunydd a gynhwyswyd ar TelynauTeifi.co.uk yn ddirwystr na heb wallau, nac y bydd TelynauTeifi.co.uk na'r gweinydd sy'n ei darparu yn rhydd rhag firysau a bygiau
Ymwadiad Cysylltau
Cynhwysir pob dolen er cyfleustra i'n defnyddwyr. Nid ydym yn gyfrifol am, nac yn rheoli'r cynnwys neu'r wybodaeth a welir neu a ddefnyddir ar wefan unrhyw drydydd parti, ac nid ydym yn cyflwyno unrhyw osodiad ynghylch cywirdeb neu unrhyw agwedd arall ar gynnwys / gwybodaeth unrhyw wefan drydydd parti. Ni ddylid cymryd y ffaith ein bod yn darparu dolen â gwefan drydydd parti fel datganiad o gefnogaeth ddatganedig neu ymhlyg gennym ni o'r cynnwys, gwybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau a allai fod ar gael i chi, neu drwy'r trydydd parti.
Eiddo Deallusol
Mae hawlfraint y deunydd ar y wefan hon, ei dyluniad, ei thestun a'i graffeg, a'r modd y'u dewisir a'u trefnir, a'r holl grynoadau meddalwedd, y cod gwreiddiol sylfaenol a'r meddalwedd (yn cynnwys rhaglenigau) yn eiddo i TelynauTeifi.co.uk neu i ddarparwyr y cyfryw wybodaeth. Cedwir pob hawl. Ni ellir atgynhyrchu neu ailddosbarthu'r deunydd hwn heb ein caniatâd ysgrifenedig. Serch hynny, gallwch lwytho i lawr neu argraffu un copi er mwyn ichi ei ddarllen all-lein i ddibenion anfasnacho.
Gall enwau'r cynhyrchion a'r cwmnïau y sonnir amdanynt ar y wefan hon fod yn nodau masnach neu'n nodau masnach cofrestredig eu perchnogion priodol.
Cyfraith lywodraethol
Caiff yr amodau a thelerau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan yr amodau a thelerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.
Gwybodaeth Bellach
Cysylltwch â Telynau Teifi Cyf ar 01559 363 222 am wybodaeth bellach
