Cael Clywed a Chanu'n Telynau
I glywed ein telynau, cliciwch ar y clip sain hwn

Band Llydan (MP3 2.2Mb) cliciwch yma
Band Cyfyng (MP3 600Kb) cliciwch yma
neu fe allwn ni anfon CD atoch yn y post - llenwch y ffurflen gyswllt.
Cerddystwyth – Aberystwyth
Pianos Cymru – Porthmadog
Harriet Earis – Pontrhydfendigaid,
harpist
Ty Siamas – National
Centre for Welsh Trad. Music, Dolgellau
Nia Jenkins – harpist
Swansea
Pat Daly – Armagh,
harpist, Ireland
Glenda
Clwyd – harpist, Pontypridd
Danielle Perrett – harpist

Ond wrth gwrs, y ffordd orau o werthfawrogi sain unigryw ein telynau yw i wrando ar un yn y cnawd. Mae 'na sawl ffordd o wneud hyn. Mae croeso i chi alw draw i'n canolfan werthu a'n gweithdy yn Llandysul lle byddwn ni wrth ein bodd i'ch dangos chi o gwmpas ac esbonio'r broses o gynhyrchu'n telynau. Fe allwch chi eistedd yn ein stiwdio a threulio faint bynnag o amser fynnwch chi yn canu a gwrando ar ein telynau. Bydd ein staff profiadol yn fwy na pharod i ateb eich cwestiynau. Mae'r ganolfan werthu a'n gweithdy ar agor o 9.00am tan 5.00pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Os oes angen, fe allwn ni drefnu eich croesawu chi yma ar y penwythnos, ond fe fyddwn ni ar gau ar gyfer pob Gwyl y Banc.
Os nad yw'n bosib i chi ymweld â ni yn Llandysul, fe allwch chi hefyd ddod o hyd i'n telynau ni yn Pencerdd, neu Cerdd Ystwyth yn Aberystwyth.
Mae Telynau Teifi yn arddangos yn gyson mewn eisteddfodau a gwyliau eraill, felly cadwch lygad ar ein tudalennau digwyddiadau, a hwyrach y gallech chi ddod i'n gweld ni ar un o'r achlysuron hyn.
Mae siawns go dda y byddwch chi'n nabod rhywun sy'n byw yn eich hardal sy'n hurio neu sy'n berchen ar delyn Telynau Teifi. Hwyrach y gallwn ni hefyd eich cyfeirio chi at diwtor telyn, myfyriwr y delyn, neu aelod o gymdeithas delynau a fyddai'n fodlon i chi alw heibio i weld eu telyn. Os rhowch chi wybod i ni lle chi'n byw, fe wnawn ni'n gorau glas i'ch cyfeirio chi at delyn Telynau Teifi.
Mae mwy a mwy o gerddorion amlwg yn dewis perfformio mewn cyngherddau a gwyliau gyda thelyn Telynau Teifi. Ryn ni'n rhestru'r rhai ryn ni wedi clywed amdanyn nhw ar ein tudalen newyddion.
Mewn amgylchiadau arbennig, gall ein Cydlynydd Gwerthiant a Marchnata drefnu dod â thelyn atoch chi; mae hyn yn dibynnu ar bellter, cost a pha mor ymarferol fydd hi i'ch cyrraedd chi. Peidiwch ag oedi holi a fydd hyn yn bosib os mai hwn fyddai'r unig ddewis i chi. Gallwch gysylltu â'n Cydlynydd Gwerthiant a Marchnata ar 01559 363222.
