Cael y Gorau o'ch Telyn

Cael y Gorau o'ch TelynFfrwyth llafur blynyddoedd o waith caled yw'r delyn hon. Ryn ni'n dethol yn ofalus y deunyddiau gorau a gwydn. Ryn ni wedi datblygu technegau cynhyrchu sy'n sicrhau bod eich telyn yn rhoi blynyddoedd o bleser i chi, ond mae pa mor dda mae'r offeryn yn aeddfedu yn dibynnu arnoch chi. Dyma'n cyngor ni ar sut i ofalu am eich telyn:

Sain

Sain y delyn yw nodwedd bwysica'r offeryn. Dylai fod yn glir a chyson trwy'r offeryn cyfan, ac ymateb i'r telynor mewn unrhyw gyweirnod. Mae pob telyn dda yn dod yn fwy mwyn wrth aeddfedu, ac fe welwch bod sain eich telyn gan Telynau Teifi yn datblygu dros y blynyddoedd. Gallwch gynorthwyo sain y delyn i ddatblygu trwy gadw eich telyn mewn cywair a'i chanu'n gyson.

Cynnal a Chadw

Mae'r delyn wedi ei gwneud gan fwyaf o ddeunyddiau naturiol - pren, perfedd, a glud - felly mae cynnal a chadw cyson, ynghyd â gofal tyner, yn hollbwysig. Fe all bod hyd at dunnell o densiwn ar y tannau, felly gall unrhyw gnoc neu drawiad gael effaith hir-dymor andwyol ar y delyn. Bydd gwasanaeth a chywiro'r delyn yn gyson yn datrys yn gynnar unrhyw broblemau sydd yn yr arfaeth, gan sicrhau bod eich hofferyn yn perfformio ar ei orau.

Defnyddiwch y tannau cywir bob tro. Gall defnyddio'r tannau anghywir, neu'r mesur anghywir, yn rhoi tensiwn andwyol ar y delyn. Mae rhestr tannau yn cael ei chynnwys gyda'ch telyn, ond os oes gyda chi unrhyw gwestiwn, yna cysylltwch â ni. Peidiwch byth â gadael eich cyweirgorn ar y pin, gan fod damweiniau yn siwr o ddigwydd!

Amgylchedd

Mae deunyddiau naturiol yn dueddol o ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd, ac amrywiadau mewn lleithder a thymheredd, gan effeithio ar strwythur a pherfformiad eich telyn. Ryn ni'n cymryd pob gofal i sychu'n pren, ond mewn cartref â gwres canolog gall y pren golli cymaint â 15% o'i leithder. Gall hyn wneud i'r pren grebachu, i'r uniadau ddatgymalu, ac i'r pren hollti. Dylech gadw'ch telyn mewn man tawel, i ffwrdd o'r mynd a dod arferol yn eich cartref, ac i ffwrdd o ddrafftiau a gwres. Cadwch eich telyn mewn ystafell lle mae'r lefel lleithder yn gyson, hynny yw nid yn rhy sych, ac nid yn rhy wlyb (mae buddsoddi mewn mesurydd lleithder yn syniad da).

Glanhau

Mae eich telyn wedi ei thrin â farnais gwydn a fydd yn ei gwarchod am flynyddoedd i ddod. Dylech gael gwared o olion bysedd a llwch â lliain lint. Defnyddiwch frwsh colur meddal er mwyn tynnu'r llwch oddi ar y mecanwaith hanner tôn a'r cafn.

Gwarant

Mae gwarant dwy flynedd gan y gwneuthurwr ar eich telyn, sy'n diogelu deunyddiau a saernïaeth. Dylech nodi nad yw'r gwarant yn diogelu elfennau fel tannau sy'n cael eu treulio, nac ychwaith yn diogelu yn erbyn difrod sy'n deillio o ddiffyg gofal, felly dilynwch ein canllawiau gofal os gwelwch yn dda. Cysylltwch â ni os oes gyda chi unrhyw gwestiwn.

Gwasanaeth

Mae'r pris prynu yn cynnwys archwiliad ar ddiwedd y chwe mis cynta. Cysylltwch â ni i'w drefnu.

Objective 1 Logo